Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
CLA96 – Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 8 Chwefror 2012.
Fe’u gosodwyd: 13 Chwefror 2012.
Yn dod i rym: 6 Mawrth 2012
CLA97 – Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 8 Chwefror 2012.
Fe’u gosodwyd: 13 Chwefror 2012.
Yn dod i rym: 6 Mawrth 2012
CLA98 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 20 Chwefror 2012.
Fe’u gosodwyd: 23 Chwefror 2012.
Yn dod i rym: 16 Mawrth 2012
CLA99 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 20 Chwefror 2012.
Fe’u gosodwyd: 23 Chwefror 2012.
Yn dod i rym: 16 Mawrth 2012
CLA100 – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’i gwnaed: 20 Chwefror 2012.
Fe’i gosodwyd: 23 Chwefror 2012.
Yn dod i rym: 16 Mawrth 2012
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
Dim
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
Dim
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
Dim
Busnes Arall
Gohebiaeth y Pwyllgor
Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddewis y weithdrefn gadarnhaol neu negyddol mewn is-ddeddfwriaeth
Nododd y Pwyllgor ymateb y Cwnsler Cyffredinol dyddiedig 28 Chwefror 2012 i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 16 Chwefror 2012 ynghylch cyhoeddi canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddewis y weithdrefn gadarnhaol neu negyddol mewn is-ddeddfwriaeth. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu sut y mae’r canllawiau’n gweithio yng ngoleuni’r profiad o graffu ar Filiau’r Cynulliad ymhen oddeutu 18 mis.
Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012
Cafodd y Pwyllgor drafodaeth ragarweiniol ar Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012, a chytunodd i wahodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’r Pwyllgor Menter a Busnes i ystyried y Gorchymyn o safbwynt polisi.
Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan yr Athro John Williams o Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth. Cytunodd yr Athro Williams i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am ddosbarthiad swyddi cyntaf graddedigion Cwrs Ymarfer Cyfreithiol Prifysgol Aberystwyth a graddedigion Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Penderfyniad i gwrdd yn breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42 (vi), penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn ar gyfer yr ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru, ac i gytuno ar adroddiadau’r Pwyllgor ar yr ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn neddfau’r DU ac ar Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru). Bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod y dewisiadau o ran cynnal ei gyfarfodydd ar adegau eraill.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
5 Mawrth 2012